Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Hydref 2015

Amser: 09.01 - 10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3268


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

William Powell AC (Cadeirydd)

Russell George AC

Bethan Jenkins AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Cenric Clement-Evans, Deisebydd

Staff y Pwyllgor:

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 205KB) Gweld fel HTML (148KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

Datganodd Aelodau y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi:

·         wneud sylwadau ar sylwadau pellach y deisebydd;  

·         am ragor o wybodaeth am yr adolygiad, gan gynnwys manylion ynghylch yr amserlen debygol, sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, a'r sefydliadau y byddwn yn cysylltu â hwy;

·         gwneud sylwadau ar ba un a ellir defnyddio pwerau o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad, os yw tystiolaeth yr adolygiad annibynnol ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn awgrymu fod angen gwneud hynny; ac

·         a yw'n credu fod angen deddfwriaeth sylfaenol.

 

</AI4>

<AI5>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI5>

<AI6>

3.1   P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.

 

</AI6>

<AI7>

3.2   P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.

</AI7>

<AI8>

3.3   P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Bu William Powell yn cwrdd â'r deisebwyr mewn perthynas â P-04-564 (Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog).

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:

 

</AI8>

<AI9>

3.4   P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ohebiaeth gan y bwrdd iechyd.

 

</AI9>

<AI10>

3.5   P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

</AI10>

<AI11>

3.6   P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         gau'r ddeiseb; ac

·         wrth gau'r ddeiseb, sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r ohebiaeth ddiweddaraf a gofyn ei bod yn cael ei hystyried.

 

</AI11>

<AI12>

3.7   P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd. Oni cheir ymateb gan y deisebydd cyn pen pedair wythnos, cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb.

 

</AI12>

<AI13>

3.8   P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

</AI13>

<AI14>

3.9   P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

</AI14>

<AI15>

3.10P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.11.

 

</AI15>

<AI16>

3.11P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at ymateb Animal Aid a gofyn am ei sylwadau ar gynigion pellach y sefydliad o ran sut y gellid defnyddio a monitro lluniau teledu cylch cyfyng.

·         gofyn i'r Dirprwy Weinidog am ei barn ynghylch a gaiff argymhelliad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm, a'i datganiad ysgrifenedig, unrhyw effaith ar y mater o ladd heb stynio yn gyntaf, sydd ychydig yn wahanol. 

 

</AI16>

<AI17>

4       Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Atebodd Cenric Clement-Evans gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

</AI17>

<AI18>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

Derbyniwyd y cynnig.

</AI18>

<AI19>

6       Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 4 ar yr agenda

Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth, a chytunwyd y dylid aros am y sesiwn dystiolaeth lafar arfaethedig gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>